Zechariah 10

Yr Arglwydd yn addo achub

1Gofynnwch i'r Arglwydd am law
adeg tymor cawodydd y gwanwyn –
yr Arglwydd sy'n anfon y stormydd.
Bydd yn anfon cawodydd trwm o law
a bydd digon o gnydau yn tyfu i bawb.
2Mae eilun-ddelwau teuluol yn camarwain pobl,
a'r rhai sy'n dweud ffortiwn yn twyllo
– mae eu breuddwydion yn ffals,
a'u cysur yn ddiwerth.
Felly mae'r bobl yn crwydro fel defaid,
heb fugail i'w hamddiffyn.
3“Dw i wedi gwylltio'n lân gyda ‛bugeiliaid‛ y gwledydd,
ac yn mynd i'w cosbi nhw – y ‛bychod‛ sydd ar y blaen!”
Mae'r Arglwydd holl-bwerus
yn mynd i ofalu am ei braidd, sef pobl Jwda,
a'u gwneud nhw fel ceffylau rhyfel cryfion.
4Ohonyn nhw y daw y garreg sylfaen,
Ohonyn nhw daw'r peg i ddal y babell,
Ohonyn nhw daw'r bwa rhyfel,
Ohonyn nhw daw pob arweinydd cryf.
5Byddan nhw fel milwyr dewr mewn brwydr
yn martsio drwy'r mwd ar faes y gâd.
Am fod yr Arglwydd gyda nhw,
byddan nhw'n ymladd
ac yn curo cafalri'r gelyn.
6“Dw i'n mynd i wneud teyrnas Jwda'n gryf,
ac achub pobl Israel.
10:6 Israel Hebraeg, “teulu Joseff”, sef tad Effraim a Manasse, dau brif lwyth Israel (teyrnas y gogledd).

Dw i'n mynd i ddod â nhw'n ôl
a dangos trugaredd atyn nhw –
bydd fel petawn i erioed wedi eu gwrthod nhw.
Fi ydy'r Arglwydd eu Duw nhw,
a dw i'n mynd i'w hateb nhw.
7Bydd pobl Israel
10:7 Israel Hebraeg, “Effraim”, sef prif lwyth teyrnas Israel, yn aml yn cynrychioli y wlad yn gyfan.
fel milwyr dewr
yn dathlu fel petaen nhw wedi meddwi.
Bydd eu plant mor hapus wrth weld hynny,
ac yn gorfoleddu yn yr Arglwydd.
8Dw i'n mynd i chwibanu
i'w casglu nhw at ei gilydd –
dw i'n eu gollwng nhw'n rhydd!
Bydd cymaint ohonyn nhw ag o'r blaen.
9Er i mi eu gwasgaru drwy'r gwledydd,
byddan nhw'n meddwl amdana i mewn mannau pell –
a byddan nhw a'u plant yn dod yn ôl
10Bydda i'n dod â nhw yn ôl o'r Aifft,
ac yn eu casglu nhw o Asyria;
mynd â nhw i dir Gilead a Libanus,
a fydd hyd yn oed hynny ddim digon o le.
11Byddan nhw'n croesi'r môr stormus,
a bydd e'n tawelu'r tonnau.
Bydd dŵr dwfn yr Afon Nil yn sychu,
balchder Asyria'n cael ei dorri,
a'r Aifft yn rheoli ddim mwy.
12Bydda i'n gwneud fy mhobl yn gryf,
a byddan nhw'n byw fel dw i'n dweud,”

—yr Arglwydd sy'n dweud hyn.
Copyright information for CYM